IN THE SHADOW OF THE PRESELIS

The trackways along the spine of the Preseli mountains have been in use by travellers, traders warlike invaders and pilgrims of different kinds ever since the first farmers began to pasture their animals and cultivate the thin but fertile upland soils during the Neolithic period around 4,000 to 5,000 years ago. It was from Carn Meini and along these tracks that

the Preseli dolorite was taken to Stonehenge, a temple symbolic of political and social cohesion in a time of violent change. Because of their command over the chain of the Preseli, the leaders of the Iron Age and the early Christian settlers in Pembrokeshire were able to claim authority over the farmland nestling in their shadow. Not only is this part of Pembrokeshire rich in history and archaeology but it abounds in legend both Christian and profane. Across the landscape King Arthur pursued Twrch Trwyth in the legend of Culhwch and Olwen; here flourished the cult of St. Teilo when centuries after his death his skull drew up healing waters for the sick; to this locality fled St.Brynach; in his escape from physical and spiritual persecution. In the Middle Ages these mountains became a focus in the struggle between the Welsh princes and Norman invaders.

In order to journey in the shadow of the Preseli; the modern pilgrim is advised to follow this leaflet with the help of an Ordnance Survey map, scale of either 1: 25,000 or 1: 50,000. Grid references are given in the text.

cyflwyniad

Bu'r llwybr ar hyd esgeiriau mynyddoedd y Preselau yn cael ei ddefnyddio gan deithwyr, masnachwyr, goresgynwyr o ryfelwyr a phererinion o wahanol fathau fyth ers i'r ffermwyr cyntaf ddechrau gosod eu hanifeiliaid i bori yno a thrin pridd tenau ond ffrwythlon yr ucheldir yn ystod y cyfnod Neolithig rhwng 4,000 a 5,000 o flynyddoedd yn ôl. Ar hyd y llwybrau hyn y dygwyd cerrig glas y Preselau o Carn Meini i Gôr y Cewri (Stonehenge), teml oedd yn symbol o gydlyniad politicaidd a chymdeithasol mewn oes o newidiadau ffyrnig. Oherwydd eu rheolaeth ar gadwyn y Preselau, roedd arweinwyr yr Oes Haearn a'r ymsefydlwyr Cristnogol cynnar yn sir Benfro yn medru hawlio awdurdod dros y tir amaeth oedd yn gorwedd yn eu cysgod. Mae'r rhan hon o Sir Benfro yn gyfoethog, nid yn unig o safbwynt hanes ac archaeoleg, ond hefyd o ran chwedloniaeth Gristnogol a'r byd. Ar draws y tirlun hwn yr aeth y Brenin Arthur ar drywydd y Twrch Trwyth yn chwedl Culhwch ac Olwen; yma y ffynnodd cwlt Teilo Sant, ganrifoedd wedi ei farwolaeth, pan ddefnyddiwyd ei benglog i godi dwr iachusol ar gyfer cleifion; i'r ardal hon y ffôdd Sant Brynach wrth ddianc rhag erledigaeth gorfforol ac ysbrydol. Yn ystod y Canol Oesoedd daeth y mynyddoedd hyn yn ganolbwynt yn y brwydro fu rhwng y Tywysogion Cymreig a'r goresgynwyr Normanaidd.

Er mwyn teithio yng nghysgod y Preselau, awgrymir bod y pererin cyfoes yn dilyn y daflen hon gyda chymorth map Ordnans, graddfa naill ai 1:25,000 neu 1:50,000. Rhoddir cyfeirnodau grid yn y testun.

Mae'r daflen hon ar gael hefyd yn y Gymraeg